Thursday, June 8, 2023
Canmoliaeth i dimoedd iechyd meddwl am eu hymrwymiad i ofalwyr

Canmoliaeth i dimoedd iechyd meddwl am eu hymrwymiad i ofalwyr

MAE tri thîm iechyd meddwl wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ofalwyr a’u teuluoedd, a’u cefnogaeth ohonynt.

Mae Tîm Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a Phobl Ifanc, Tŷ Helyg sy’n cwmpasu Ceredigion a Chanolfan Gwili sy’n cwmpasu rhan o Gaerfyrddin, oll wedi cyflawni gwobr Lefel Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr; cynllun sy’n cael ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i gefnogi gan ei bartneriaid yn yr awdurdod lleol a’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cynlluniwyd y fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr i helpu cyfleusterau iechyd megis fferyllfeydd, meddygfeydd ac ysbytai i ffocysu ar wella’u hymwybyddiaeth o ofalwyr a gwella’r help a’r gefnogaeth maen nhw’n rhoi i ofalwyr.

Meddai Angela Lodwick, Pennaeth Gwasanaeth Arbenigol CAMHS a Therapïau Seicolegol: “Rwy’n falch iawn o waith Amanda a’r Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol ac maen nhw’n llawn haeddu’r wobr hon am eu hymrwymiad a’u hymroddiad. Mae wiry n adlewyrchu Gwerthoedd y Bwrdd iechyd, ac yn adlewyrchu gofal, caredigrwydd a thosturi.”

Meddai Amanda Aldridge, Gweithiwr Iechyd Meddwl Sylfaenol: “Er ei body n hyfryd derbyn y wobr hon ar ran Iechyd Meddwl Sylfaenol a CAMHS, mae’n bwysig cofio nad dyma ddiwedd y gwaith o gefnogi Gofalwyr a’u teuluoedd.

“Byddwn yn ymdrechu bob amser i sicrhau gwasanaeth rhagweithiol a thosturiol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd y gofal.”

Meddai Rebecca Emerson, Seicolegydd Cynorthwyol yn Tŷ Helyg, Aberystwyth: “Mae’r Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr wedi bod yn gyfle i ddatblygu gyda’n gilydd fel tîm mewn prosiect ystyrlon.”

Meddai Ffion Mainwaring, Nyrs Seiciatrig Gymunedol: “Rydym yn falch o Ganolfan Gwili ar gael y wobr hon i’n galluogi i gefnogi’r gofalwyr ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaethau.”

Mae Gofalwr yn rhywun, o unrhyw oed, sy’n darparu cymorth di-dâl i berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb yr help. Gallai hyn olygu gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy’n sâl, bregus, anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu camddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr; yn y rhan helaeth o achosion, nid yw unigolyn yn dod yn ofalwr o ddewis, ond ar hap.

Am fwy o wybodaeth ar y cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, neu am gyngor defnyddiol i ofalwyr, ewch i: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gofalwyr

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: