Friday, October 7, 2022
Camau newydd i ddiogelu cymunedau Cymraeg

Camau newydd i ddiogelu cymunedau Cymraeg

Heddiw, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi rhagflas o’r camau gweithredu sy’n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi.

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o ymyraethau megis anogaeth i berchnogion tai i roi cyfle teg i bobl leol wrth werthu eu heiddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn cyhoeddi Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fydd yn dod ag arbenigwyr ynghyd i wneud argymhellion polisi, er mwyn diogelu a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Bydd y Gweinidog yn trafod y camau hyn heddiw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, cyn cyhoeddi’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg terfynol yn nhymor yr hydref.

Bydd y Gweinidog yn rhannu’r darpar gynlluniau gan gynnwys ‘cynllun cyfle teg’ gwirfoddol a fydd yn helpu perchnogion i wneud penderfyniadau ynghylch sut i werthu eu cartref, drwy ganiatáu i eiddo gael eu marchnata yn lleol yn unig am gyfnod penodol. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda sefydliadau megis arwerthwyr tai i fynd i’r afael ag anghenion tai y cymunedau hynny.

Bydd y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg hefyd yn cynnwys cefnogaeth i fentrau cydweithredol a chynlluniau tai cydweithredol ynghyd â chamau i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.

Fel rhan o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio i fynd i’r afael â’r effaith negyddol y gall ail gartrefi a diffyg tai fforddiadwy ei chael, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol, er mwyn rhoi’r gallu iddynt gynyddu’r dreth cyngor ar ail gartrefi a thai sy’n wag am gyfnod hir hyd at 300%.

Fis diwethaf, fel rhan o’u Cytundeb Cydweithio, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru gynlluniau pellach ar gyfer cyfreithiau cynllunio newydd, cynllun trwyddedu ar gyfer llety gwyliau a chynigion i newid y dreth trafodiadau tir mewn ardaloedd â nifer uwch o ail gartrefi.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, mae angen cymunedau cynaliadwy a chyfleoedd gwaith da yn yr ardaloedd lle mae’n cael ei siarad yn eang.

“Drwy ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, byddwn ni a’n partneriaid yn cydweithio â chymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, ac yn eu helpu i ddatblygu cynlluniau sy’n diogelu eu hunaniaeth a’n hiaith ni.

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â phennu atebion penodol, bydd popeth y byddwn ni’n ei wneud yn cyd-fynd â dyheadau cymunedau lleol.”

Ar y Comisiwn, dywedodd y Gweinidog:

We Provide A FREE Local News Service

Help Support Local News today Thank You

 

“Bydd y Comisiwn yn ein helpu ni i ddatblygu polisïau ar gyfer y dyfodol i gynnal yr iaith yn y cymunedau hynny sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg. Dyw hyn ddim yn ymwneud â sefydlu corff newydd, mae’n dod â grŵp o arbenigwyr ynghyd mewn amryw o feysydd i ddweud y gwir yn blaen wrthon ni am sut mae’r economi, penderfyniadau polisi a demograffeg yn effeithio ar y Gymraeg.

“Dwi wedi dweud sawl gwaith bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol hi. Bydd rhaid i ni fod yn ddewr a mynd i’r afael â phethau allai fod yn anodd gyda’n gilydd. Dwi’n siŵr y bydd rhai o’r pethau y bydd y Comisiwn yn eu dweud wrthon ni yn heriol, ond dyna’r peth – dyna fydd yn helpu i ni ddod o hyd i’r atebion mwya’ effeithiol!”

Bydd y Comisiwn yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks, a gyhoeddodd yr adroddiad Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Dyma aelodau’r Comisiwn:

Talat Chaudhri
Lowri Cunnington Wynn
Cynog Dafis
Meinir Ebbsworth
Delyth Evans
Dafydd Gruffydd
Myfanwy Jones
Shan Lloyd Williams
Cris Tomos
Rhys Tudur
Dywedodd Dr Brooks:

“Fel Comisiwn, byddwn ni’n edrych ar sefyllfa ieithyddol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw, er mwyn gwneud argymhellion polisi a fydd yn helpu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Bydd y Comisiwn yn llunio adroddiad cynhwysfawr, a fydd yn pontio meysydd polisi sy’n cynnwys addysg a’r economi. Drwy edrych ar y rhain gyda’n gilydd, ry’n ni am helpu i ddatblygu atebion i’r heriau sy’n wynebu ein holl gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae Cymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae datblygu cymunedau Cymraeg yn hanfodol i’w dyfodol fel iaith fyw.”

You May Have Missed

You are in breach of copyright
%d bloggers like this: