MAE’R Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cadarnhau y bydd yn rhoi hyd at £50 miliwn i gefnogi prosiectau ledled Cymru, gan ddarparu cartrefi diogel a sefydlogi bobl i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn ddigartref ac nad oes neb yn cael eu gorfodi yn ôl i’r strydoedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ategu ei hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd, drwy ailgartrefu pawb sydd wedi cael lloches frys yn ystod pandemig y coronafeirws, ac adeiladu ar y £10 miliwn o gyllid cychwynnol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth drwy roi £40 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol.

Roedd cam cyntaf yr ymateb i ddigartrefedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bawb lety lle y gallent hynanynysu os oedd angen a lle y gallent ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd ynghylch hylendid sylfaenol, golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol. Mae’r ail gam yn canolbwyntio ar ddull gweithredu mwy hirdymor o drawsnewid gwasanaethau, arloesi ac adeiladu cartrefi, â’r nod o sicrhau bod gan bawb a gafodd lety brys yn ystod pandemig y coronafeirws lwybr clir at gartref parhaol a darparu llety o ansawdd uchel i’r rheini sydd dan fygythiad o ddigartrefedd yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu pecyn o gymorth i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i bandemig y coronafeirws yn gallu aros yn eu cartrefi rhent preifat, gan gynnal tenantiaethau ac osgoi troi pobl allan oherwydd ôl-ddyledion rhent. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd cynnydd dros dro yn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan, gan ddarparu mwy o ddiogelwch rhag digartrefedd i denantiaid mewn llety preifat ar rent a chartrefi’r cymdeithasau tai.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd £1.4m yn ychwanegol i helpu tenantiaid i gynyddu incwm eu haelwydydd a rheoli dyledion trafferthus, gyda chymorth cynllun rhybudd cynnar penodol a ddarperir gan Gyngor ar Bopeth Cymru. Yn ogystal, bydd y Cynllun Benthyciadau Arbed Tenantiaeth newydd yn darparu dull fforddiadwy o dalu am ôl-ddyledion rhent, neu i dalu rhent am fisoedd i ddod, gan leihau’r risg o droi tenantiaid allan a’u gwneud yn ddigartref. Bydd y benthyciadau hyn yn cael eu talu’n uniongyrchol i landlordiaid ac maent ar gael i denantiaid nad oedd mewn ôl-ddyledion rhent sylweddol cyn Mawrth 1af eleni.

Yn ystod ymweliad â Mind Casnewydd, a fydd yn cael arian o ail gam yr ymateb i ddigartrefedd i ychwanegu llawr newydd i’w swyddfeydd gan ddarparu saith o fflatiau hunangynhwysol, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r coronafeirws wedi tynnu sylw at dai mewn ffordd nad oes llawer ohonom wedi’i gweld o’r blaen ac wedi’n hatgoffa i gyd o bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da, cartrefi diogel a sefydlog a chymunedau cryf a chydlynus y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt. Y ffordd orau i ni fynd i’r afael â digartrefedd yw drwy ei atal yn y lle cyntaf.

Dw i wedi dweud yn glir nad ydw i eisiau gweld neb yn gorfod dychwelyd i’r strydoedd. Mae gennym gyfle unigryw i newid y gwasanaethau a newid bywydau er gwell – ac i wneud digartrefedd yn sefyllfa brin, fyrhoedlog nad yw’n ailddigwydd. Rydyn ni eisiau adeiladu ar y llwyddiant a welsom hyd yma a newid dull Cymru o weithredu ynghylch digartrefedd yn y tymor hir.

For More Great News Stories Click The Banner

I’r perwyl hwnnw, dw i wedi cynyddu’r cyllid cyffredinol ar gyfer ail gam ein hymateb i ddigartrefedd i hyd at £50 miliwn. Mae hyn yn dangos yn eglur lefel ein hymrwymiad i’r dasg o sicrhau y gallwn gyflwyno newidiadau sylweddol a thrawsnewidiol a fydd yn cyfrannu at gyrraedd ein nod o ddileu digartrefedd yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y trydydd sector a chyrff eraill, wedi cyflwyno prosiectau hynod uchelgeisiol, beiddgar ac arloesol sydd nid yn unig yn manteisio ar ddulliau adeiladu modern sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ond sydd hefyd yn cydgysylltu â gwasanaethau eraill, megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, gofal sylfaenol a diogelwch cymunedol. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith nad problem llety yn unig yw digartrefedd: mae’n broblem i’r gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ac mae’n ymwneud â chael mynediad at y gwasanaethau hynny ble a phryd y mae eu hangen ar bobl. Nid rhyw dincran o gwmpas yr ymylon mo hyn – yn hytrach mae a wnelo a chael atebion beiddgar, a fydd yn para.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

“Roedd y cyngor yn gweithio gyda sefydliadau hirsefydlog i helpu cynifer o bobl â phosibl oddi ar y strydoedd ac i lety cyn i’r pandemig ddechrau, ond daeth y flaenoriaeth hon yn hollbwysig yn ystod y cyfnod cloi.

“Nid oedd hyn heb ei heriau am sawl rheswm, ond ni fyddai wedi bod yn bosibl o gwbl heb waith caled a pharodrwydd i arloesi ein tîm tai, a’n partneriaid a’r cymorth ariannol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru.

“Dw i’n rhannu uchelgais y Gweinidog o ddileu digartrefedd yng Nghymru ac rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu gweithio gyda Mind Casnewydd ar y cynllun tai newydd gwych hwn fel rhan o gyllid cam 2 o’r ymateb i ddigartrefedd. Gwyddom na fydd cael gwared ar gysgu ar y stryd a digartrefedd yn llwyr yn hawdd, ond mae hwn yn gam nesaf pwysig ar y daith i weddnewid bywydau’r rheini nad oes ganddynt do uwch eu pennau.”

, , ,
Similar Posts
Latest Posts from Llanelli Online